Fe fydd ymwelwyr â maes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd yn cael cyfle i weld llong newydd sy’n arloesi wrth chwilio am ffyrdd o ddefnyddio’r môr i gynhyrchu ynni gwyrdd.

Bydd yr RV Mary Anning, llong newydd Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, wedi’i hangori o flaen adeilad y Senedd drwy gydol wythnos yr ŵyl.

Mae’r llong ymchwil hon yn mesur 18.5m x 6m ac yn gallu mordwyo ar gyflymder o 18kts a gwibio dros y dŵr ar gyflymder o 25kts. Mae labordai ymchwil

a chyfrifiadurol ar ei bwrdd ac amrywiaeth o’r cyfarpar gwyddonol a thechnolegol diweddaraf.

Mae’r llong wedi cael ei henwi ar ôl un o’r merched cyntaf i arloesi fel biolegydd môr, casglwr ffosiliau a phalaeontolegydd.

Mary Anning (1799-1847) a helpodd i ddarganfod y gwelyau ffosiliau yn y môr o’r cyfnod Jurassic yn Lyme Regis yn ne Lloegr. Cafodd ei henwi gan y Gymdeithas Frenhinol yn

2010 yn un o’r deg o fenywod yng ngwledydd Prydain a ddylanwadodd fwyaf ar hanes gwyddoniaeth.

Bydd arddangosfa ar y llong yn darparu gwybodaeth am waith a chyfraniad Mary Anning.

Fe fydd y llong yn cael ei defnyddio’n helaeth ar gyfer prosiect Seacams2, sy’n bartneriaeth rhwng prifysgolion Abertawe a Bangor, i helpu datblygu cyfleoedd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy o’r môr. Bydd gweithio arni hefyd yn rhan allweddol o’r profiadau a gaiff myfyrwyr Prifysgol Abertawe wrth astudio’r cyrsiau Bioleg y Môr.

Os hoffech wybod mwy am y llong, a gweld yr adnoddau sydd arni, dewch draw i’r GwyddonLe, a gaiff ei threfnu a’i noddi unwaith eto eleni gan Brifysgol Abertawe,i gasglu’ch tocyn am ddim.