Mae myfyrwraig sy’n astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr genedlaethol a chlod uchel am safon ei Chymraeg.

Cerian Fflur Colbourne, sy’n wreiddiol o Landysul, yw enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019, wrth gael y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Cymraeg y Coleg.

Dyma’r ail waith i fyfyriwr o Brifysgol Abertawe gipio Gwobr Goffa Norah Isaac, sy’n cydnabod cyfraniad arloesol y ddarlithwraig a’r arbenigwraig ddrama Norah Isaac i fyd addysg Gymraeg.

Mae’r Dystysgrif Sgiliau iaith yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ym mhob maes i gynnal ac arddangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Cerian, sydd ym mlwyddyn olaf ei chwrs ac yn chwaer i Megan, Swyddog Materion Cymraeg newydd Undeb Myfyrwyr Abertawe, ei bod yn ei theimlo’n fraint fawr i ennill y wobr.

“Roedd y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn ddefnyddiol iawn wrth fy helpu i ymarfer a chynnal fy sgiliau Cymraeg a byddwn i’n argymell i unrhyw un fynd amdani,” meddai.