Mae Brengain Jones wedi bod yn cydweithio â rhai o enwau mwya’r byd rygbi, diolch i’w chwrs ym Mhrifysgol Abertawe. A hithau’n gwneud MA mewn Cyfathrebu, y Cyfryngau a

Chysylltiadau Cyhoeddus, mae’r ferch o Lanfairfechan wedi bod yn treulio diwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith gyda rhanbarth rygbi’r Scarlets yn Llanelli.

“Ychydig cyn dechrau’r cwrs mi ges i e-bost yn dweud bod
y Scarlets yn cynnig profiad gwaith cysylltiadau cyhoeddus i ddau fyfyriwr, ac ro’n i’n ddigon ffodus i gael fy newis,” meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol y Creuddyn ger Llandudno.

A hithau’n dilyn rygbi o bell, ond heb fod yn gefnogwraig selog, mae wedi gallu cymryd golwg annibynnol ar y ffordd y mae’r rhanbarth yn delio â chyhoeddusrwydd.

Daeth i’r casgliad yn fuan nad oedd y clwb yn neilltuo digon o adnoddau i allu cyfathrebu’n effeithiol â’i gefnogwyr.

“Pan ddechreuais i ar brofiad gwaith dim ond un person oedd yn gweithio’n llawn-amser ar y cyfryngau, ac roedd llawer gormod o waith i un,” meddai. “Mae pethau wedi gwella dros y misoedd diwethaf wrth iddyn nhw ehangu’r adran.”

Fe lwyddodd hefyd i gael cefnogwyr i groesi’r ffin rygbi o Abertawe i Barc y Scarlets, trwy chwarae rhan flaenllaw mewn prosiect i ddenu rhai o’i chyd-fyfyrwyr i un o’r gêmau cartref.

“Mi wnaethon ni gynnig arbennig i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe – bws a thocyn a pheint a pei am £5 – ac mi brofodd hynny’n boblogaidd iawn, gan ddenu 40 i’r gêm,” meddai Brengain.

Yn ystod y flwyddyn mae hi hefyd wedi bod yn brysur yn ysgrifennu negeseuon ar dudalennau Facebook a Twitter y clwb gan roi’r newyddion diweddaraf i gefnogwyr.

“Mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweld sut mae clwb fel hyn yn gweithio,” meddai. “A gweld pa mor bwysig ydi paratoi chwaraewyr ar gyfer cwestiynau gan newyddiadurwyr.”