Tîm o bedair o ferched yw Llysgenhadon y Coleg Cymraeg yn Abertawe eleni. Eu rôl yw ymweld ag ysgolion i ysbrydoli rhagor o ddisgyblion i astudio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol. Maen nhw hefyd yn ymweld â digwyddiadau cenedlaethol ac yn crynhoi eu profiadau mewn blog.

“Mae’r Cymry yn nyts! Mae bod yn rhan o Gymdeithas Gymraeg yn y brifysgol yn anhygoel, a’r penderfyniad gorau wnes i,” meddai Hannah Nicole Davies o Benygroes, Dyffryn Aman, sydd ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe.

Ar un adeg, roedd hi fel llawer eraill yn poeni nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da ond fe newidiodd ei meddwl ac mae wrth ei bodd.

“Fe wnes i ymgeisio i fod yn llysgennad er mwyn hybu’r iaith Gymraeg ac i gael disgyblion y chweched i weld y cyfleoedd anhygoel sydd ar gael wrth astudio trwy’r Gymraeg.”

Eisiau dangos cymaint o gyfleoedd Cymraeg sydd yna mewn cyrsiau iechyd y mae Shannon Rowlands o Gastell Newydd Emlyn sydd ar ei blwyddyn gyntaf ar gwrs Meddygaeth i Raddedigion.

“Mae bod mewn prifysgol yng Nghymru’n golygu fy mod i’n gallu defnyddio’r Gymraeg, sy’n teimlo’n fwy cartrefol i fi, a dwi eisiau gweithio yma ar ôl graddio felly mae’n gwneud synnwyr cael fy hyfforddi yma yng Ngwasanaethau Iechyd Cymru.

“Cymraeg oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol,
a dw i wastad wedi bod eisiau astudio yn y Gymraeg,” meddai Lydia Hobbs o Gaerdydd, sydd ar ei hail flwyddyn yn astudio’r Gymraeg fel ail iaith. “Dw i’n falch iawn o allu hyrwyddo astudio trwy’r Gymraeg ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd.”

Gobeithio argyhoeddi pobl ifanc i ddilyn yn ôl ei thraed mae Katie Emma Phillips sy’n dod o Ferthyr ac yn falch o’r cyfle i barhau i astudio drwy’r Gymraeg wrth wneud BA Daearyddiaeth yn y Brifysgol.

“Mae mwy o gymorth a grwpiau llai wrth ddysgu trwy’r Gymraeg,” meddai. “Mae’n eich helpu chi i ddatblygu sgiliau iaith Cymraeg, gwella eich hyder, a chreu ffrindiau newydd.”