Fe arhosodd y Gadair Ryng-golegol yn Abertawe, wrth i un o fyfyrwyr y Brifysgol gipio’r brif wobr lenyddol yn yr Eisteddfod eleni.

Fe ddaeth cannoedd o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru a’r tu hwnt i fwynhau eu hunain yn yr ŵyl dros benwythnos Gŵyl Ddewi.

Er mai Prifysgol Bangor oedd yr enillwyr, cafodd myfyrwyr Abertawe y pleser o weld Grug Muse, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg, yn ennill
y Gadair a gafodd ei dylunio gan ddisgybl o Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur.

“Roedd yn benwythnos i’w gofio!” meddai Becca Martin, trefnydd yr Eisteddfod a Swyddog Materion Cymraeg rhan-amser olaf Undeb y Myfyrwyr.

“Roedden ni wrth ein bodd yn cael croesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol i Brifysgol Abertawe eleni. Dros y deuddydd fe gafwyd cystadlu brwd rhwng prifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd trwy gyfrwng chwaraeon, canu, dawnsio a pherfformio, cyn i’r cyfan ddod i ben gyda gig arbennig gan HMS Morris, Mellt a Candelas.

“Rydym ar ddechrau blwyddyn o ddathliadau i nodi canmlwyddiant Prifysgol Abertawe,” meddai

Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, “ac roedd cynnal yr Eisteddfod hon yn ffordd wych o ddathlu treftadaeth a bywyd Cymraeg y sefydliad ac i dynnu prifysgolion eraill Cymru i’r dathliadau hynny. O gofio hynny, bu gwylio cadeirio Grug Muse ar lwyfan yr Eisteddfod yn adeilad eiconig y Brifysgol, Tŷ Fulton, yn brofiad arbennig tu hwnt.”