Yn ogystal â dilyn cwrs gradd yn y Gymraeg yn Abertawe, mae Laura Hughes yn cael profiad uniongyrchol o hybu’r iaith yn ei hardal.

Bob dydd Gwener mae’r ferch o Glydach yn teithio lan y cwm i Bontardawe i’w swydd ran-amser yn Nhŷ’r Gwrhyd, y Ganolfan Gymraeg sy’n bartneriaeth rhwng Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot.

“Mae cael gweithio yno yn wych,” meddai Laura, sydd ar ei hail flwyddyn yn y Brifysgol.

“Dw i’n cael pob mathau o brofiadau amrywiol, yn gweithio
yn y siop lyfrau, yn archebu stoc ac ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid ac ymwelwyr, neu’n cefnogi disgyblion ysgolion cynradd lleol gyda’u sgiliau darllen Cymraeg yn y Clwb Darllen wythnosol.

“Mae’n galonogol iawn gweld y diddordeb sydd gan bobl ddi-Gymraeg yn y Ganolfan a chymaint sy’n awyddus i wybod am y cyrsiau dysgu Cymraeg sydd gyda ni.”

Er nad yw ei swydd gyflogedig yn uniongyrchol gysylltiedig â’i chwrs gradd, mae’n dweud bod y gwaith yn cyfoethogi ei phrofiad fel myfyriwr.

“Mae bod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd i hybu’r Gymraeg ar lawr gwlad yn sicr yn berthnasol iawn imi yn fy nghwrs gradd, ac mae Adran y Gymraeg wedi bod yn wych yn eu cefnogaeth,”meddai.