Mae Megan Colbourne yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur ac at greu ychydig o hanes – hi yw Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Fe fydd y fyfyrwraig o Landysul yn rhan o dîm o ferched-yn-unig sydd ym mhrif swyddi’r Undeb, ar ôl i fyfyrwyr bleidleisio tros gael swydd lawn-amser i hyrwyddo’r iaith.

“Mae hyn yn fraint fawr i mi a dw i’n disgwyl ymlaen at y flwyddyn gyffrous
a phrysur sy’ o’m blaen,” meddai Megan, sydd ar fin graddio mewn Daearyddiaeth.

“Fy mhrif nod yw cynyddu statws yr iaith ar draws y Brifysgol a gwneud yn siŵr bod myfyrwyr Cymraeg yn derbyn yr un faint o gymorth â phawb arall.

“Fe fyddaf hefyd yn gweithio gyda’r Gymdeithas Gymraeg a’r Cymdeithasau Chwaraeon Cymraeg i roi mwy o gymorth iddyn nhw. Yn amlwg, byddaf yn cydweithio gydag adrannau a sefydliadau sy’n cefnogi addysg a’r Gymraeg, gan gynnwys Academi Hywel Teifi y Brifysgol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Mentrau Iaith lleol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth allwn ni ei ddatblygu gyda’n gilydd yma yn Abertawe.”

Tîm o ferched

Dyma’r tro cynta’ hefyd i fenywod gymryd pob un o brif swyddi’r Undeb.

Fe fydd Megan yn cydweithio â Grace Hannaford (Llywydd), Teresa ‘Tee’ Ogbekhiulu (Addysg), Inês Teixeira-Dias (Cymdeithasau a Gwasanaethau), Ffion Davies (Chwaraeon) ac Ana Guri (Lles).

Wrth ddymuno’n dda i Megan yn ei gwaith newydd, dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, ei bod yn croesawu’r penderfyniad i droi’r swydd yn un llawn-amser.

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb i’r miloedd o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yn y Brifysgol,” meddai.

“Edrychwn ymlaen fel Academi at gydweithio’n agos â Megan wrth gefnogi, datblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth addysgol a’r gwasanaethau Cymraeg o fewn yr Undeb
a’r Brifysgol. Dyma bennod newydd gyffrous i’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ar drothwy canmlwyddiant y sefydliad.”

Megan Colbourne

Yn ymuno â Sian ac Owain yn y stiwdio heddiw roedd Megan Colbourne, sy' newydd gael ei hethol yn Swyddog Materion Cymraeg Prifysgol Abertawe – y tro cyntaf i'r swydd fod yn swydd llawn amser.

Posted by Prynhawn Da S4C on Monday, 25 March 2019