Mae Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe’n cynnig cyfle i astudio am radd newydd ac arloesol o fis Medi ymlaen.

Fe fydd y cwrs BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi yn ymwneud ag amrywiaeth helaeth o bynciau gan gynnwys statws cyfreithiol y Gymraeg, yr iaith Gymraeg a datganoli, a rôl y Gymraeg mewn addysg.

“Mae’r radd yn gymhwyster sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gofynion cyflogwyr a’r galw gan ddisgyblion ysgol,” meddai Dr Rhian Jones, Pennaeth Adran y Gymraeg.

“Mae galw sylweddol am raddedigion sy’n deall materion fel cynllunio ieithyddol ac egwyddorion rheoleiddio yng nghyd-destun y Gymraeg.

“Bydd pwyslais cryf ar baratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith a cheir amrywiol gyfleoedd i ennill profiad gwaith. Gall myfyrwyr hefyd ddewis treulio blwyddyn mewn gwaith, gan ddilyn y cwrs dros bedair blynedd.“

Fydd dim rhaid bod wedi gwneud y Gymraeg at Safon Uwch i gael eich derbyn ar y cwrs, er
y bydd disgwyl i ymgeiswyr fod wedi astudio pynciau perthnasol eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesi ffiniau

Mae’r cwrs yn enghraifft o’r cyfleoedd sydd yna yn Abertawe i groesi rhwng pynciau, gyda nifer o’r modiwlau, fel ‘Statws y Gymraeg’ a ‘Hawliau Iaith yn y Cyd-destun Rhyngwladol’ eisoes ar gael ac yn cael eu dilyn gan fyfyrwyr o adrannau eraill. Mae modiwlau ar y themâu hyn hefyd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr sy’n astudio’r BA Cymraeg traddodiadol. “Rwyf wir yn mwynhau’r ddarpariaeth oherwydd fy mod wedi dysgu cymaint am ddatblygiad statws yr iaith dros

y canrifoedd diwethaf,” meddai Alpha Jones, sy’n fyfyrwraig blwyddyn gyntaf. “Mae hynny’n hollbwysig er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr am bwysigrwydd diogelu’r iaith i’r dyfodol.”

Ymhlith y rhai a fydd yn cyflwyno modiwlau’r cwrs newydd mae’r Athro Gwynedd Parry, gŵr y mae ei yrfa ei hun wedi pontio’r gwahanol bynciau. Ar ôl cyfnod fel bargyfreithiwr, fe
fu’n Athro yn Ysgol y Gyfraith y Brifysgol am flynyddoedd cyn symud i Adran y Gymraeg ddwy flynedd yn ôl.

Mae’n awdurdod ar hanes cyfreithiol Cymru ac fe fydd llyfr ganddo ar y Gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg yn cael ei gyhoeddi’r haf yma.

“Dyma gwrs gradd unigryw yn ei gyfuniad o elfennau rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol sydd yn rhoi’r sylfaen gorau ar gyfer cyfleoedd gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol, a’r cyfan, wrth gwrs, trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

I gael gwybodaeth bellach, anfonwch neges at: cymraegabertawe@abertawe.ac.uk